Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2018
Amser:
08.30 -
09.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Trafododd y Rheolwyr Busnes faterion amrywiol yn ymwneud â'r trefniadau busnes yn sgil y ffaith y disgwylir Prif Weinidog newydd yn ystod wythnos olaf tymor yr hydref. Bydd y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yn cynnwys amserlen ddiwygiedig ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad (OAQs) yn ystod pythefnos olaf y tymor.
Trafododd y Rheolwyr Busnes ddymuniad Llywodraeth Cymru i sicrhau pleidlais ystyrlon ar y cytundeb Brexit y disgwylir iddo ddod i'r amlwg yn dilyn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd y penwythnos hwn, a hynny cyn i'r cytundeb gael ei drafod gan Senedd y DU. Mae'n bosibl y bydd hynny'n golygu cynnal Cyfarfod Llawn ychwanegol drwy alw'r Cynulliad yn ôl ddydd Iau 29 Tachwedd. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn asesu beth fyddai effaith y cam hwn ar fusnes y pwyllgorau, a chytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater gyda'u grwpiau ac i rannu eu sylwadau y tu allan i'r pwyllgor.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Ddadl Aelodau nesaf gael ei threfnu ar gyfer 12 Rhagfyr. Fodd bynnag, er mwyn cadw'r opsiwn o ohirio'r ddadl honno yn sgil pwysau busnes arall, cytunodd y Rheolwyr Busnes na ddylid ailagor y broses gyflwyno. Bydd cynnig yn cael ei ddewis o'r rhestr gyfredol, yn unol â'r hyn a drafodwyd gan y Rheolwyr Busnes yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 12 Rhagfyr 2018 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w ystyried, a chytunodd ar ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, sef 22 Ionawr 2019.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w ystyried, a chytunodd y dylid dychwelyd yr wythnos nesaf i'r mater o bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, a hynny er mwyn ymchwilio ymhellach i'r amserlen Seneddol.
Cadarnhaodd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â lleoedd ar bwyllgorau. Bydd Plaid Cymru yn enwebu Helen Mary Jones fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a bydd y Blaid yn gadael un o'i seddi ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn gwneud lle i aelod ychwanegol o'r Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Adam Price wedi ymddiswyddo o Gomisiwn y Cynulliad, a bydd Plaid Cymru yn enwebu Siân Gwenllian yn ei le.
Yn dilyn cais gan Aelod annibynnol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyhoeddi agenda'r Pwyllgor Busnes ar gyfer ei gyfarfodydd preifat o hyn ymlaen.